Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2017
Amser:
09.29 -
10.13
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Comisiynydd Safonau: |
Syr Roderick Evans QC, Comisiynydd Safonau |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Thomas |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Ystyriodd yr Aelodau y llythyr drafft a chytuno ar ei gynnwys.
4.1 Ystyriodd yr Aelodau y cais i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas, ynghyd ag adolygu’r cosbau sydd ar gael os torrir y Cod Ymddygiad.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i:
· Gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig i ofyn barn am y broses yn gyffredinol, i holi a oes unrhyw resymau pam nad yw pobl yn gwneud cwynion ac i holi a oes unrhyw rannau o’r Cod y gellid eu gwneud yn fwy eglur. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ystyried a ddylid cynnal unrhyw sesiynau tystiolaeth lafar ar ôl cael ymatebion ysgrifenedig;
· Datblygu strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo gwaith y Pwyllgor a’r Comisiynydd Safonau; a
· Gofyn i Glerc y Pwyllgor wneud ymholiadau gyda Llywodraeth Cymru, ynghylch a oes Aelod etholedig neu uwch swyddog yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd Pwyllgor perthnasol i drafod Cod y Gweinidogion a sut y gall y Cod ategu’r gwaith a wneir i ddatblygu’r Polisi Parch ac Urddas.
Esgusododd Jayne Bryant ei hun ar gyfer Eitem 5, sef yr eitem ar yr Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(1). Roedd hyn oherwydd bod y gŵyn a gyflwynwyd ar ran Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi.
Paul Davies AC, oedd y Cadeirydd ar gyfer Eitem 5 yn dilyn cytundeb y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2016, ei fod ef yn cael ei ethol fel Cadeirydd dros dro.
Gadawodd Syr Roderick Evans, y Comisiynydd Safonau, y cyfarfod hefyd ar ôl Eitem 4.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Syr Roderick Evans, y Comisiynydd Safonau i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra’r ystyriwyd yr eitem hon.
5.2 Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)
5.3 Nododd yr Aelodau fod yr Aelod dan sylw wedi datgan y darperir tystiolaeth ysgrifenedig i’w hystyried ganddynt, a bod yr Aelod am wneud sylwadau ar lafar. Bydd y Clercod yn cysylltu â’r Aelod ac yn cynnig nifer o ddyddiadau ar gyfer y gwrandawiad.